01407 740 481

Mae’r safle ar agor o’r 1af Ebrill- 30ain o Fedi.

Mae Pen Y Bont wedi ei leoli’n gyfleus, o fewn ychydig funudau mewn car oddi ar yr A55. Mae pentref Y Fali o fewn pellter cerdded gyda chanolfannau siopa, swyddfa bost, garej, ty golchi, siop trin gwallt, meddygfa a deintyddfa.

Mae gorsaf reilffordd gerllaw ac mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd heibio i’r safle. Mae’r pentrefi cyfagos yn cynnwys amrywiaeth o gaffis, tafarndai a thai bwyta. Mae traethau tywodlyd a’r Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn cyrraedd hawdd hefyd.

Mae dewis o safleoedd llawr caled a glaswellt gyda thrydan 10amp i garafannau a carafannau modur yn unig. Mae safleoedd di drydan i bebyll bach a maint canolig.

Cyfarwyddiadau i Safle Carafannau Pen y Bont

Gadewch yr A55 ar gyffordd 3 a dilynwch yr arwyddion am Y Fali. Wrth y goleuadau traffig trowch i’r chwith. Gyrrwch drwy’r pentref am un filltir (dros y groesfan rheilffordd a chylchfan bychan). Mae Pen y Bont ar yr ochr dde gyferbyn a thŷ gwyn.

OS YDYCH YN DEFNYDDIO SAT NAV PEIDIWCH A THROI I’R DDE I FYNY FFORDD ‘BRYN Y MOR’. PARHEWCH I YRRU AM ODDEUTU 600M ARALL.